1. |
Breuddwyd Bell
04:19
|
|||
Rwy’n bell
Mae’n hwyr,
Mae’r eira’n disgyn,
Breuddwydio am adre nawr.
Fe lyncodd y nos yr haul rhai oriau’n ôl,
Ond cyn iddi wawrio eto, dros ddieithr ddôl,
Bydd fy llygaid wedi agor llawer tro,
Yn disgwyl mod i’n gorwedd,
Yn fodlon yn y fro.
A’m teulu bach o’m cwpas - pawb yn glud,
Er i’r rhai lleua fynd a’r lle i gyd!
O! gwsg gafael fy llaw a mynd â fi,
At y freuddwyd ffyddlon,
At fy hafan i.
Wedi bod i ffwrdd ers amser maith,
Wedi profi hwyl a her y daith,
Ond yma’n ôl daw’r dynfa faith o hyd,
Yn ôl at hon, a hi a fe - fy myd,
Fy hafan i.
Edrychais am ryw ystyr
bywyd gwell i ni,
Ond ysu wnes am wres
cynefin bell o hyd,
Rhyw gysur ddaw o’r lloer a pherlau’r hwyr,
Ai’r un yw’r nos dros adre?
Dros y Nadolig? Pwy a wyr.
Wedi bod i ffwrdd ers amser maith,
Wedi profi hwyl a her y daith,
Ond yma’n ôl daw’r dynfa faith o hyd,
Yn ôl at hon, a hi a fe - fy myd
Fy hafan i.
R’ôl botel win neu ddau o flaen y tân,
Sgwrsio â ffrindiau estron, tan yr oriau mân,
Caf hedfan ar adenydd medd yr wyl,
Yn ôl i gôl dy gariad,
I’r miri mawr a’r hwyl!
Wedi bod i ffwrdd ers amser maith,
Wedi profi hwyl a her y daith,
Ond yma’n ôl daw’r dynfa faith o hyd,
Yn ôl at hon, a hi a fe - fy myd,
Fy hafan i.
Mae’n dawel nos,
Mae’r eira’n disgyn,
Breuddwydio am adre nawr.
|
Trystan Llyr Griffiths Wales, UK
Welsh tenor Trystan Llŷr Griffiths is quickly making his mark on the International Opera Stage, having worked with Opéra National de Lorraine, Zürich Opera, Scottish Opera, Opera North and Welsh National Opera.
Contact Trystan Llyr Griffiths
Streaming and Download help
If you like Trystan Llyr Griffiths, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp